Lleoliad:
Fideo Gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 18 Awst 2020
Amser:
13.00 -
17.15
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6452
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Lynne Neagle AS (Cadeirydd) Dawn Bowden AS Hefin David AS Suzy Davies AS Siân Gwenllian AS Laura Anne Jones AS |
Tystion: |
Ian Morgan, CBAC Elaine Carlile, CBAC David Jones, Cymwysterau Cymru Philip Blaker, Cymwysterau Cymru Jo Richards, Cymwysterau Cymru Kirsty Williams AS, Y Gweinidog Addysg Georgina Haarhoff, Llywodraeth Cymru Sinead Gallagher, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Llinos Madeley (Clerc) Tanwen Summers (Ail Glerc) Michael Dauncey (Ymchwilydd) Rhiannon Lewis (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 17.46, dywedodd y Cadeirydd, ar ôl ymgynghori rhyngddi hi a'r Llywydd, cafodd y cyfarfod ei alw yn ystod wythnos nad oedd yn wythnos eistedd.
1.3 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd ond byddai’r cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv.
1.4 Dywedodd y
Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi'n gadael y cyfarfod
am unrhyw reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn Gadeirydd Dros Dro yn
unol â Rheol Sefydlog 17.22.
2 COVID-19: Sesiwn dystiolaeth ar effaith COVID-19 ar ganlyniadau arholiadau pobl ifanc yn 2020 - CBAC
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gyd-bwyllgor Addysg Cymru.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 4
3.1 Derbyniwyd y cynnig.
4 COVID-19: Trafod y dystiolaeth
4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn flaenorol.
5 COVID-19: Sesiwn dystiolaeth ar effaith COVID-19 ar ganlyniadau arholiadau pobl ifanc yn 2020 – Cymwysterau Cymru
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymwysterau Cymru
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 7
6.1 Derbyniwyd y cynnig.
7 COVID-19: Trafod y dystiolaeth
7.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn flaenorol.
8 COVID-19: Sesiwn dystiolaeth ar effaith COVID-19 ar ganlyniadau arholiadau pobl ifanc yn 2020 - Llywodraeth Cymru
8.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Addysg.
8.2. Cytunodd y Gweinidog Addysg i ddarparu llinell amser o ddigwyddiadau allweddol sy’n digwydd ar ôl canslo arholiadau.
9 Papurau i’w nodi
9.1 Cafodd y papurau eu nodi.
10 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
10.1 Derbyniwyd y cynnig.
11 COVID-19: Trafod y dystiolaeth
11.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn flaenorol.
11.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg, gan anfon copi at CBAC a Chymwysterau Cymru, i amlinellu ei farn gychwynnol ac i ofyn am wybodaeth ychwanegol yn ysgrifenedig.